Mae elusen sy’n cefnogi plant byddar yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i leihau’r “bwlch” rhyngddyn nhw â chyrhaeddiad dysgu disgyblion eraill.
Mae Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru yn pryderu fod disgyblion byddar yn tangyflawni o gymharu â’u cyfoedion.
Un modd o wella hyn, yn ôl yr elusen, yw cynnwys ymwybyddiaeth am fyddardod yn y cwrs hyfforddi athrawon ynghyd â sicrhau parhad cymorth arbenigol yn y maes.
Mae’r elusen wedi croesawu Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru – ond maen nhw’n pryderu sut y bydd y rhaglen yn addasu at anghenion dysgwyr byddar.
Daw’r galwadau yn ystod wythnos ymwybyddiaeth byddardod yng ngwledydd Prydain.
Ac yn ôl llefarydd ar ran yr elusen, “nid yw byddardod yn anabledd dysgu ac fe ddylai disgyblion byddar fod yn cyflawni ar yr un lefel â’u cyfoedion, o gael y cymorth priodol”.
“Rydym yn credu fod nifer o resymau fod bwlch, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau eu diwygiadau parhaus i fynd i’r afael â’r materion mae disgyblion byddar yn eu hwynebu.”
Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymrwymo i wella addysg holl ddisgyblion Cymru gan gyflwyno pecyn gwerth £20m o welliannau i gefnogi’r ymgais i gyflwyno’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol.
“O gael ei basio, bydd ein mesur uchelgeisiol, Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn ailwampio yn llwyr y system o gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys disgyblion gyda thrafferthion clyw”, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd y llefarydd y byddan nhw’n datblygu’r gweithlu i “sicrhau fod ganddyn nhw’r sgiliau i weithredu’r system newydd yn effeithiol a gwella canlyniadau holl ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol”.