Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, wedi addo “ehangu hawliau gweithwyr yn fwy nag unrhyw lywodraeth Geidwadol o’r blaen” os fydd y blaid yn llwyddo i gadw grym ar ôl yr etholiad fis nesaf.

Ym maniffesto’r Ceidwadwyr mae cynlluniau i ddiogelu pensiynau ac addewid i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cynrychioli ar fyrddau cwmnïoedd.

Mae Theresa May wedi ymrwymo i gynnig “dêl newydd i weithwyr” trwy gynyddu’r cyflog byw cenedlaethol a sicrhau hawl gweithwyr i adael gwaith er mwyn gofalu am aelod o’r teulu.

Bydd y pecyn o ddiwygiadau hefyd yn diogelu’r hawl i adael gwaith yn sgîl marwolaeth plentyn, a’r hawl i adael er mwyn hyfforddi.

Ymateb pleidiol

Mae pennaeth ymgyrch y Blaid Lafur, Andrew Gwynne, wedi cyhuddo Theresa May o drin pobol sydd yn gweithio fel “ffyliaid” gan fynnu bod y Ceidwadwyr wedi “methu â sefyll fyny dros weithwyr” yn y gorffennol.

Yn ôl cyn-Ysgrifennydd Busnes y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Vince Cable, nid yw’r Ceidwadwyr yn “blaid sy’n sefyll dros hawliau gweithwyr”.

Addewidion etholiadol

Mae Llafur wedi addo gwario £37 biliwn yn ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys £10 biliwn ar gyfer uwchraddio sustemau technoleg gwybodaeth ac adnewyddu adeiladau.

Yn ôl Arweinydd plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, mi fyddai ei blaid ef yn cael gwared ar y cap o 1% ar godiadau cyflog i staff ysgolion ac ysbytai yn y sector gyhoeddus.