Mae ymchwiliad i lofruddiaeth merch ddiflannodd 16 mlynedd yn ôl wedi ailagor yr wythnos hon gyda Heddlu Essex a Chaint yn chwilio am ei chorff mewn garejis yn ne ddwyrain Lloegr.

Mae’r safleoedd yn ardal Thurrock yn Essex yn “llinell ymchwiliad credadwy” yn ôl yr heddlu, ac maen nhw wedi cadarnhau nad oeddent yn rhan o’r ymchwiliad gwreiddiol yn 2001.

Cafodd Danielle Jones ei gweld diwethaf ar Fehefin 18, 2001 wrth adael ei chartref i ddal bws ysgol yn nwyrain Tilbury.

Cafodd ei hewythr, Stuart Campbell, ei gyhuddo o lofruddiaeth ym mis Rhagfyr 2002 ond ni chafwyd hyd i’w chorff.

Mae’r ymchwiliad wedi ailagor yr wythnos hon wedi i’r heddlu dderbyn gwybodaeth am “weithgarwch anarferol” ar y safle.

“Cawsom wybodaeth yn gynharach eleni am weithgarwch anarferol yn y bloc garej ac rydw i’n gwbl ymrwymedig i gynnal chwiliad manwl a phroffesiynol,” meddai Steve Worron, Pennaeth Cyfarwyddiaeth Troseddau Difrifol Essex a Chaint.