Darn o erthygl The Times a sbardunodd y chwerthin ar raglen Today, Radio 4
Mae rhaglen newyddion foreol Radio 4 wedi bod yn gwneud hwyl am ben y Gymraeg, wrth drafod mai S4C fydd yn darlledu uchafbwyntiau gemau rygbi’r Llewod yr haf hwn.
Roedd y rhaglen Today fore heddiw yn trafod erthygl yn adran chwaraeon papur newydd The Times sy’n croesawu’r ffaith y bydd modd i gefnogwyr wylio’r gemau heb orfod talu am y fraint… ond yn gresynu mai yn Gymraeg y bydd y sylwebaeth.
“Mi fydd rygbi’r Llewod am ddim ar y teledu,” meddai’r pennawd, cyn ychwanegu “ond mae yna un amod: mi fydd y sylwebaeth yn uniaith Gymraeg.”
A dyna oedd achos y chwerthin a’r dychan yn ystod dau adolygiad o’r straeon chwaraeon am 7.20yb a 8.20yb ar Radio 4, gyda Justin Webb yng nghadair y cyflwynydd.
Mae golwg360 wedi gofyn i BBC Cymru am ymateb, ond does dim sylw wedi dod hyd yn hyn.
Beth ydi’r broblem?
Ym mhapur The Times, mae’r golofn yn tynnu sylw at y ffaith bod sylwebaeth Saesneg opsiynol yn cael ei ddarparu gan S4C ar y botwm coch “fel arfer”. Ond fydd yr opsiwn hwnnw ddim ar gael yn ystod gemau’r Llewod oherwydd natur y cytundeb â Sky.
Mae’r sianel Gymraeg wedi denu tipyn o ymateb yn y gorffennol am sylwebaeth gemau chwaraeon ac ym mis Mawrth cafodd ei beirniadu am ymddiheuro am ddiffyg sylwebaeth Saesneg yn ystod gêm rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon.
Ac mewn blwch wrth ochr erthygl The Times mae termau rygbi Cymraeg wedi’u rhestru, yn cynnwys “Ti’n ddall, reff” a “Cell gosb” – a’r rhain sbardunodd y chwerthin ar raglen Today ar Radio 4. Hyd yn oed pan oedd y drafodaeth ar y rygbi drosodd, fe gafodd rhai o’r termau eu dyfynnu fel atebion posib wrth drafod tips rasio ceffylau.
“Cymraeg i ddysgwyr yn y Times ar gyfer darllediad S4C,” meddai Justin Webb gan chwerthin. “Mae wedi fy mwrw oddi ar y trywydd nawr. Am beth oedden ni’n siarad? Ewch at y trêl!”
Ymateb y BBC
Pan ofynnodd golwg360 yn benodol i’r BBC yn Llundain pam ei bod hi’n dderbyniol gwneud hwyl fel hyn am ben yr iaith Gymraeg, rhagor na ieithoedd eraill gwledydd Prydain fel Pwnjabi, Arabeg, Sanskrit neu Hindi, dyma oedd yr ymateb a ddaeth trwy lefarydd Cymraeg ym mhencadlys y Gorfforaeth yn Llandaf:
“Roedd Justin (Webb) yn sôn ar raglen y bore yma am gynlluniau S4C i ddarlledu uchafbwyntiau taith y Llewod, gan gyfeirio at erthygl yn The Times. Awgrymodd y papur ychydig o ymadroddion ar gyfer dysgwyr fydd yn gwylio’r gemau ac fe rannwyd y geiriau gyda’r gwrandawyr gan ymddiheuro os nad oedd ei ynganiad yn berffaith.”
Mae llefarydd ar ran S4C yn dweud nad ydi’r sianel am wneud sylw ar yr eitem radio na’r erthygl yn The Times.