Bohuslav Sobotka
Mae prif weinidog y Weriniaeth Tsiec wedi newid ei feddwl ynglyn ag ymddiswyddo, ac mae wedi addo datrys creisis ariannol… felly mae wedi diswyddo ei weinidog cyllid.
Fe achosodd Bohuslav Sobotka dipyn o anhrefn ddydd Mawrth (Mai 2) pan gyhoeddodd y byddai’n ymddiswyddo tros sgandal ynglyn â’r gweinidog, Andrej Babis.
Doedd y biliwnydd o wleidydd, meddai’r prif weinidog, ddim wedi ateb yn eglur honiadau ei fod yn osgoi talu trethi. Mae Andrej Babis yn gwadu’r honiadau.
Ond bellach, mae Bohuslav Sobotka wedi gwneud tro pedol wedi i arlywydd y Weriniaeth Tsiec dderbyn ei ymddiswyddiad ef, heb dderbyn ymddiswyddiad neb arall o’r llywodraeth. Mae’n dweud fod yr arlywydd yn rhannu’r un weledigaeth wleidyddol ag Andrej Babis, a’u bod â’u llygaid ar ennill yr etholiad nesaf yn y wlad yr hydref hwn.