Christina Rees yn hawlio llwyddiant (llun o'i gwefan)
Mae’r pleidiau mwya’ yng Nghymru wedi hawlio cysur o ganlyniadau’r etholiadau lleol hyd yn hyn.

  • Mae yna ryddhad o gyfeiriad Llafur, gyda’u gweinidog yn y Cynulliad, Alun Davies, yn dweud bod cadw gafael ar y dinasoedd mawr – Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd – yn gamp fawr.
  • Er nad ydyn nhw wedi ennill tir mawr, mae Plaid Cymru’n hawlio enillion bychain mewn rhai ardaloedd allweddol.
  • Roedd y Ceidwadwyr yn pwysleisio’u llwyddiant mewn cynghorau fel Sir Fynwy a Phenb-y-bont ar Ogwr ond yn cydnabod siom yn y dinasoedd.
  • Er fod arweinydd ei blaid yng Nghymru yn hawlio rhai buddugoliaethau, roedd cyn AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, yn cydnabod eu bod wedi methu ag ennill seddi newydd oddi ar Lafur nag ennill tir yn ôl oddi ar y Ceidwadwyr.

Dyma ymateb ffurfiol y pleidiau hyd yn hyn, gyda’r rhan fwya’ o ganlyniadau cynghorau gwledig ar ôl tan ganol dydd a’r prynhawn yma …

Llafur

 

“Byddwn yn parhau i frwydro. Byddwn yn parhau i ymladd am Gymru a Phrydain agored, oddefgar ac unedig,” meddai Christina Rees, llefarydd Cymreig y blaid yn San Steffan.

“Er bod canlyniadau o hyd yn dod i mewn mae’n glir nad yw’r cynnydd disgwyliedig i’r Torïaid wedi digwydd.

“Rydym wedi mynd yn erbyn y rhagolygon ac wedi cael canlyniadau cryf iawn dros Gymru gan ddal ymlaen i Gaerdydd, Casnewydd, Torfaen a Chastell Nedd Port Talbot.

“Er bod cynghorau o hyd yn cyfri y pleidleisiau mewn sawl man y neges glir heno yw bod nifer helaeth o bobol Cymru yn gwrthod y Ceidwadwyr ac yn pleidleisio dros Llafur er mwyn eu hatal rhag rheoli Cymru.”

Ceidwadwyr

“Rydym wedi gweld canlyniadau calonogol dros nos – ennill rheolaeth dros Gyngor Sir Fynwy yn bennaf – ond dydyn ni ddim am gymryd unrhyw beth yn ganiataol,” meddai llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol.

“Mae’n rhy gynnar i roi darlun llawn a dydyn ni ddim yn gallu dweud yn sicr y bydd y canlyniadau yn cael eu hailadrodd yn yr etholiad cyffredinol.”

Plaid Cymru

“Hyd yn hyn mae pethau’n edrych yn bositif i Blaid Cymru gan nad yw canlyniadau ein hardaloedd cryfaf wedi cael eu cyhoeddi,” meddai Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

“Rydym wedi torri tir newydd dros Gymru i gyd o Aberafan i Flaenau Gwent – mae’r canlyniadau yn edrych yn bositif i Blaid Cymru.”

“Stori’r noson yw bod Plaid Cymru a’r Torïaid wedi ennill tir yn erbyn methiannau Llafur ac UKIP.”

Democratiaid Rhyddfrydol

“Roeddwn yn ymwybodol y byddai’r etholiadau yma yn rhai anodd, ond r’yn ni wedi cynnal ymgyrch y gall pob ymgyrchydd fod yn falch ohoni,” meddai Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mark Williams.

“Bydd y broses o ailadeiladu ein plaid yn cymryd amser, a chafodd yr etholiadau yma eu cynnal yn ystod cyfnod cynhyrfus. Er hyn mae’r canlyniadau yn dangos bod yna obaith. Rydym wedi cipio seddi Llafur yn Sir Fynwy a Chastell Nedd Port Talbot, seddi o’r Ceidwadwyr yn Sir y Fflint ac o Blaid Cymru yng Ngheredigion.”