David Davis, Ysgrifennydd Brexit (Robert Sharp CCA2.0)
Mae gweinidogion cabinet y Torïaid wedi parhau i ymosod ar y Comisiwn Ewropeaidd tros Brexit – ac wedi cael eu cyhuddo o chwarae gêmau er mwyn ennill yn yr Etholiad Cyffredinol.

Y bore yma, mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, wedi dweud wrth swyddogion gadw’u barn iddyn nhw eu hunain rhag cymhlethu’r trafodaethau.

A neithiwr, yn y rhaglen Qeustion Time, fe ddywedodd Ysgrifennydd Brexit, David Davis, fod arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn ceisio “bwlio” gwledydd Prydain.

“Fydd pobol Prydain ddim yn cymryd cael eu bwlio a fydd y Llywodraeth ddim yn gadael iddyn nhw gael eu bwlio,” meddai.

Cymru ‘yn cael ei hanwybyddu’

Yn yr un rhaglen, fe ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ei bod yn hen bryd i lais Cymru gael ei glywed yn y trafodaethau Brexit.

“R’yn ni wedi cael ein hanwybyddu trwy gydol yr holl broses,” meddai. “Hyd yma, r’yn ni wedi cael ein hanwybyddu’n llwyr yn hyn i gyd.”

Fe ymosododd hi ar dactegau’r Ceidwadwyr gan ddweud eu bod nhw’n peryglu’r trafodaethau Brexit er mwyn lles etholiadol.