Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Mae nifer o gyrff cyhoeddus Cymru yn parhau i ddelio’n wael â chwynion, yn ôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Yn ei adroddiad dywed yr Ombwdsmon, Nick Bennett, bod cyrff cyhoeddus â phroblem wrth ymdrin â chwynion a dywed bod “diwylliant o ofn a beio” yn rannol gyfrifol am hyn.
Mae’n debyg bod ymchwiliadau i gwynion yn annigonol a bod y ffordd mae cwynion wedi cael eu trin mewn rhai achosion yn “ddim llai na hurt.”
Ateb y broblem yn ôl yr Ombwdsmon yw arweinyddiaeth gref, hyfforddiant cadarn i staff a gwell dulliau o gasglu data.
Canu’r un hen gân
“Rydw i’n bryderus bod rhai o gyrff y sector cyhoeddus yn canu’r un hen gân gyda phatrymau o ddelio’n wael â chwynion yn cael eu hailadrodd yn ddiddiwedd,” medd yr Ombwdsmon, Nick Bennett.
“Rhaid i uwch staff fynd i’r afael â diwylliant o ofn a beio ac agwedd amddiffynnol yn gyffredinol tuag at gwynion, er mwyn sicrhau nad yw’r patrymau yma’n parhau.”
Dyma’r ail adroddiad thematig i gael ei gyhoeddi gan yr Ombwdsmon yn ystod y 12 mis diwethaf, gan ddilyn adroddiad Mawrth flwyddyn ddiwethaf, ar ofal y tu allan i oriau yn ysbytai Cymru.