Mae adroddiad annibynnol i Lywodraeth Prydain yn awgrymu fod angen codi oedran y pensiwn gwladol o 67 i 68 oed erbyn 2039.
Roedd cynlluniau ar y gweill yn barod i’w godi i 68 oed erbyn 2044-46, ond mae’r adroddiad yn awgrymu fod angen gwneud hynny ynghynt.
Cafodd yr adroddiad ei arwain gan John Cridland sy’n cyn-Gyfarwyddwr gyda’r CBI, ac mae’n awgrymu fod angen gwaredu â’r system o sicrwydd clo triphlyg erbyn tymor y Llywodraeth nesaf.
Effeithio ar bobol yn eu 40au
“Dyw’r adroddiad hwn ddim yn mynd i gael rhyw lawer o groeso i unrhyw un yn eu pedwardegau cynnar, oherwydd maen nhw’n awr yn debygol o weld eu pensiwn gwladol yn cael ei wthio nôl flwyddyn arall,” meddai Tom McPhail, pennaeth polisi ymddeol Hargreaces Lansdown.
Esboniodd y gallai pobol yn eu tridegau ac iau wynebu oedran pensiwn o 70 oed yn awr.
Mae’r adroddiad hefyd yn galw am waredu â’r system clo triphlyg erbyn y Llywodraeth nesaf, lle mae’r Llywodraeth bresennol wedi ymrwymo i ganiatáu pensiwn gwladol i godi’n unol â chwyddiad, enillion neu 2.5%.
Bydd Llywodraeth Prydain yn ystyried yr adroddiad hwn cyn cyhoeddi adolygiad ar oedran pensiwn gwladol ym mis Mai eleni.