Mae cynllun gwerth £21m i ddiogelu swyddi a chryfhau sector bwyd a diod Cymru, wedi ei lansio heddiw.
Bydd Prosiect HELIX Llywodraeth Cymru yn rhoi arian ar gyfer gwaith ymchwil ym maes cynhyrchu bwyd – a’r gobaith yw y bydd yn sicrhau £100m i economi Cymru.
Y Rhaglen Datblygu Wledig sydd yn ariannu’r cynllun a fydd yn creu 370 o swyddi newydd, yn bennaf yng nghefn gwlad Cymru a’r Cymoedd.
Cafodd y prosiect ei lansio yn nigwyddiad Blas Cymru yng Ngwesty’r Celtic Manor, lle mae dros 100 o gynhyrchwyr o Gymru yn arddangos eu cynnyrch.
Cydnabyddiaeth fyd-eang
“Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol i’r diwydiant bwyd a diod i sicrhau twf o 30% erbyn 2020 ac rwy’n falch o ddweud ein bod yn bendant ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed hwnnw,” medd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
“Prosiect HELIX yw’r cam nesaf ar y daith i sicrhau bod y diwydiant bwyd a diod yn cael ei gydnabod ledled y byd am ei safon, ei greadigrwydd a’i sgiliau.”
Mae’n debyg bod 223,000 wedi eu cyflogi yn sector bwy a diod Cymru a bod y sector yn cyfrannu £17 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn.