Mae Cabinet Cyngor Sir Powys wedi pleidleisio o blaid cynllun i gau’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn dilyn cyfarfod heddiw.
Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad gafodd ei gynnal rhwng Tachwedd 2016 ac Ionawr 2017 yn argymell cau’r ffrwd Gymraeg yn yr ysgol o fis Medi 2017 ymlaen.
Y bwriad yw canoli’r ddarpariaeth yn Llanfair ym Muallt, tua 16 milltir i ffwrdd.
Byddai hynny’n creu ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn unig yn Aberhonddu.
Yn ôl y cyngor, mae’r niferoedd sy’n astudio trwy’r Gymraeg yn yr ysgol wedi gostwng dros y blynyddoedd.
“Cam yn ôl”
Ond mae’r penderfyniad wedi ennyn ymateb chwyrn gydag arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghyngor Sir Powys, yn ei ddisgrifio fel “cam yn ôl.”
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt bod yr awdurdod addysg lleol wedi methu buddsoddi yn adeilad ac isadeiledd yr ysgol dros yr 20 mlynedd diwethaf a’i fod bellach mewn cyflwr gwael.
“Yn hytrach na bygwth cau’r ffrwd Gymraeg, fe ddylai Cyngor Sir Powys fod wedi dangos ei ymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg yn ne Powys drwy fuddsoddi yn yr ysgol. Petai’r ysgol wedi cael ei chefnogi’n iawn fe fyddai nifer y disgyblion yn y ffrwd Gymraeg wedi cael eu cynnal.”
Mae ymgyrchwyr yn poeni y bydd y penderfyniad yn arwain at lai o bobol leol yn dewis astudio trwy’r Gymraeg oherwydd y pellter i Lanfair ym Muallt.
Ar hyn o bryd, Powys yw un o’r ychydig siroedd yng Nghymru sydd heb ysgol uwchradd benodedig cyfrwng Cymraeg.