Francois Fillon a'i wraig Penelope Llun: PA
Mae ymchwiliad swyddogol wedi dechrau i ymgeisydd arlywyddol Ffrainc, Francois Fillon, ar ôl iddo roi swyddi i’w wraig a’i blant.
Honnir nad oeddan nhw erioed wedi gweithio yn y swyddi y cawson nhw eu cyflogi i’w gwneud.
Mae ei wraig, Penelope Fillon, sy’n hanu o’r Fenni, yn mynnu ei bod hi wedi gweithio am y cyflog a gafodd gan ei gŵr.
Mae’r cyhuddiadau diweddaraf yn ergyd pellach i ymgais y cyn-Brif Weinidog i ennill yr etholiad arlywyddol er ei fod ar un adeg yn geffyl blaen yn y ras.
Mae Francois Fillon wedi’i gyhuddo o gamddefnyddio arian cyhoeddus, derbyn arian ar gyfer camddefnyddio arian cyhoeddus, ac o gynllwynio i gamddefnyddio arian cyhoeddus ymhlith cyhuddiadau eraill.
Mae wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le ac wedi mynnu y bydd yn parhau a’i ymgyrch.