Fe fydd Cyngor Gofal Cymru’n penderfynu’r wythnos nesaf a all gweithiwr cymdeithasol oedd â delweddau pornograffig o blant ar ei gyfrifiadur personol barhau yn ei swydd.
Cafodd Michael Paton, a oedd yn arfer cael ei gyflogi gan Gyngor Dinas Casnewydd, ei ddiarddel o’i waith yn 2015 ar ôl i’r mater ddod i’r amlwg.
Fe fydd y gwrandawiad Addasrwydd i Ymarfer yn cael ei gynnal ddydd Llun, Mawrth 13 yn swyddfeydd y Cyngor Gofal yng Nghaerdydd.
Mae disgwyl i’r gwrandawiad bara tan ddydd Iau, Mawrth 16.