Philip Hammond, Canghellor y Trysorlys
Mae Canghellor y Trysorlys wedi datgan y bydd Cymru yn derbyn £200m eleni, wrth gyhoeddi ei gyllideb wanwyn gyntaf heddiw.

Yn ystod beth fydd mwy na thebyg y gyllideb olaf cyn i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd, fe fu’n brolio bod economi’r Deyrnas Unedig yn “parhau i synnu sylwebwyr â’i thyfiant cadarn”.

Cyhoeddodd mai economi’r Deyrnas Unedig oedd yr ail cyflymaf ymysg gwledydd y G7 flwyddyn ddiwethaf o ran tyfiant economaidd, ac mae rhagolygon am dwf yn ystod 2017 wedi codi o 1.4% i 2%.

Cododd dyled y wlad i 86.6% eleni, ond mae disgwyl iddo gwympo i 79.8% rhwng 2021 a 2022 pan fydd benthyca wedi gostwng i 0.7%, yn ôl rhagolygon.

Cyhoeddiadau

Ar hyn o bryd, mae pobol hunangyflogedig yn talu llai o Yswiriant Cenedlaethol pobol sydd wedi eu cyflogi gan eraill, ac i ddelio â’r sefyllfa yma bydd ardrethu pobol Dosbarth Yswiriant Cenedlaethol 4 yn codi o 9% i 10%.

Cafodd buddsoddiad £200 mewn rhwydweithiau band eang lleol ei gyhoeddi, ynghyd â buddsoddiad £16m mewn technoleg rhwydweithiau 5G ar gyfer ffônau symudol.

Bydd £20m yn cael ei gyfrannu tuag yr ymgyrch yn erbyn trais tuag at fenywod, ac fe fydd £300m yn cael ei wario er mwyn cefnogi pobol sydd am astudio graddau doethur mewn pynciau gwyddonol.

Roedd llawer o gyhoeddiadau yn effeithio Lloegr yn unig, yn cynnwys buddsoddiad £2 biliwn ar ofal cymdeithasol, buddsoddiad £320m yn ysgolion Lloegr, a lleihad ar drethi tafarndai yn Lloegr.