Mae BBC Radio 4 wedi ennyn ymateb chwyrn ar ôl i raglen ‘Any Questions’ ofyn i’r panel a fydden nhw’n blaenoriaethu ariannu’r Gymraeg neu wasanaethau gofal.
Cafodd y cwestiwn ei ofyn ar y rhaglen neithiwr oedd yn cael ei darlledu o Dywyn yn Sir Feirionnydd.
Now on #bbcaq: which would the panel choose as a priority for funding in Wales – the Welsh Language or care budget?
— Any Questions? (@BBCAnyQuestions) February 3, 2017
Ar y panel roedd cyn-Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb, arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, llefarydd amddiffyn y Blaid Lafur Nia Griffith a Changhellor Prifysgol Aberystwyth Syr Emyr Jones Parry.
Y cwestiwn y bu’n rhaid iddyn nhw ei ateb oedd ‘O ystyried cyfyngiadau ariannol a chostau, pa un fyddai’r panel yn ei ddewis, yr iaith Gymraeg neu’r gyllideb ar gyfer gofal?’.
Gofal
Dau o’r panel oedd wedi dewis y gyllideb ar gyfer gwasanaethau gofal, sef Nia Griffith a Stephen Crabb.
Dywedodd Nia Griffiths y byddai hi “yn sicr” yn dewis y gyllideb ar gyfer gofal, gan mai “gofal yw’r brif flaenoriaeth mewn cymdeithas”.
Dywedodd Stephen Crabb ei fod yn “cytuno â Nia”, gan ychwanegu “pa fath o arian sy’n cael ei wastraffu” ar sicrhau bod deunydd yn cael ei gynhyrchu’n ddwyieithog.
Yr iaith Gymraeg
Ond wrth daro nôl, anghytunodd Syr Emyr Jones Parry a Leanne Wood, gan ddadlau na ddylai fod yn fater o ddewis rhwng y naill neu’r llall.
Yn ei ateb yntau, dywedodd Syr Emyr Jones Parry: “Ni all fod yn fater o’r naill neu’r llall.
“Fyddwn i ddim yn derbyn y dylid arallgyfeirio arian sy’n cael ei wario ar y Gymraeg i wasanaethau gofal.
“Mae’n fater o’r hyn y mae cael dwy iaith yn ei olygu. Mae’n cyfoethogi.
“Dylid defnyddio’r ddwy iaith mewn modd naturiol.”
Wrth gyfeirio’i hateb hithau’n uniongyrchol at Stephen Crabb, dywedodd Leanne Wood: “Os ydych chi’n caru’r iaith Gymraeg, rhaid i chi weithredu ar eich gair.
“Pe baech chi’n torri pob ceiniog sy’n cael ei gwario ar y Gymraeg, fyddai’n gwneud dim gwahaniaeth o gwbl i’r gyllideb ofal.”
Ymateb ar Twitter
Mae’r cwestiwn wedi ennyn ymateb chwyrn ar wefan gymdeithasol Twitter:
@BBCAnyQuestions Beth am: NHS neu’r iaith Saesneg?
— Heledd Gwyndaf (@HeleddG) February 4, 2017
Siom bod @NiaGriffithMP yn defnyddio iechyd yn erbyn y Gymraeg. Fe’i tanseiliwyd gan safiad cadarn Emyr Jones Parry a @LeanneWood #bbcaq
— Daniel G. Williams (@DanielGwydion) February 3, 2017
@Cymdeithas @ComyGymraeg @bbcquestiontime Unwaith eto mae BBC yn hybu agenda wrth-gymraeg. https://t.co/6k1FuiPeO1
— YesCymruLlundain (@YesLlundain) February 4, 2017
<blockquote class=”twitter-tweet” data-lang=”en”><p lang=”cy” dir=”ltr”><a href=”https://twitter.com/MrChristianWebb”>@MrChristianWebb</a> Cynhyrfu'r dorf yn erbyn y Gymraeg unwaith yn rhagor ???? Fydden nhw byth yn meiddio trafod iaith leiafrifol arall felly.</p>— Morgan Owen (@morgowen) <a href=”https://twitter.com/morgowen/status/827816323547815938″>February 4, 2017</a></blockquote>
<script async src=”//platform.twitter.com/widgets.js” charset=”utf-8″></script>