Mae Heddlu Scotland Yard yn ymchwilio i honiadau bod swyddogion wedi cael eu talu i osod tagiau electronig ar droseddwyr mewn modd a fyddai’n ei gwneud hi’n hawdd iddyn nhw eu tynnu nhw oddi arnyn nhw eu hunain.
Mae papur newydd The Sun yn honni bod staff Capita, sy’n gyfrifol am Wasanaeth Monitro Electronig (EMS) Llywodraeth Prydain wedi derbyn £400 ar y tro am helpu 32 o garcharorion.
Mae 14 o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o nifer o droseddau.
Mae Capita wedi bod yn gyfrifol am y tagiau ers 2014, pan ddaeth hi i’r amlwg fod G4S a Serco wedi bod yn codi gormod o arian am eu gwasanaethau.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal ymchwiliad i’r honiadau am ymddygiad staff Capita ar hyn o bryd.
Mae Heddlu Scotland Yard wedi cadarnhau bod dyn 46 oed wedi’i arestio yn Swydd Essex ar Ionawr 3 ar amheuaeth o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac o ddwyn cyfarpar tagio.
Cafodd dyn 45 oed a dynes 57 oed o Swydd Essex – sy’n gweithio i Capita ar hyn o bryd – eu harestio ar Ionawr 18 ar amheuaeth o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae 14 o bobol wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tan fis Ebrill.