Donald Trump (Llun: Wikipedia)
Mae barnwr yn Seattle wedi cyflwyno gorchymyn cenedlaethol sy’n atal gwaharddiad dadleuol Donald Trump ar bobol o saith o wledydd Mwslimaidd rhag teithio i’r Unol Daleithiau – ond mae’n ataliad dros dro yn unig.
Cymerodd y barnwr James Robart y camau ar ôl i Washington a Minnesota alw am atal y gwaharddiad wrth i nifer o daleithiau wrthwynebu cynlluniau Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Fe wfftiodd James Robart honiadau’r llywodraeth nad oedd hawl gan daleithiau unigol wrthwynebu’r cynlluniau oedd wedi arwain at ganslo fisa tua 60,000 o bobol.
Ond be’ nesa?
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd pobol sydd wedi bod yn aros rhai blynyddoedd i dderbyn fisa yn eu derbyn, ond mae staff wedi cael gorchymyn i weithredu yn ôl gorchymyn James Robart ar unwaith.
Mae llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn, Sean Spicer wedi dweud y bydd y llywodraeth yn apelio “ar frys” yn erbyn y gorchymyn “gwarthus”, ond fe gafodd y gair “gwarthus” ei dynnu allan o’r datganiad a ddilynodd.
Ychwanegodd Sean Spicer fod gan Donald Trump “yr awdurdod cyfansoddiadol a chyfrifoldeb i warchod y bobol Americanaidd”.
Washington oedd y dalaith gyntaf i ddwyn achos yn erbyn penderfyniad Donald Trump, ac fe weithredodd Minnesota yn ddiweddarach.
Wrth benderfynu atal y gwaharddiad dros dro, daeth y barnwr i’r casgliad fod rhannau helaeth ohono’n anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol.
Mae disgwyl rhagor o wrandawiadau ddydd Gwener, er bod y llywodraeth yn parhau i fynnu bod gan y Gyngres yr hawl i wneud y fath benderfyniadau ar ddiogelwch cenedlaethol a mewnfudwyr.