Mae Heddlu Gwent wedi apelio o’r newydd am wybodaeth flwyddyn union ers i gorff babi gael ei ddarganfod yng Nghasnewydd.
Cafwyd hyd i’r corff wedi’i lapio mewn tywel a’i roi mewn bag lledr ar dir yng Nghoedcernyw ar Ionawr 29 y llynedd.
Ond dydy mam y plentyn ddim wedi cael ei darganfod.
Mae lle i gredu bod y tywel wedi dod o hosbis St Anne yn y ddinas.
Mae’r heddlu’n awyddus i glywed am unrhyw ddynes oedd yn ymddwyn yn anarferol ar y pryd ac oedd yn ymddwyn yn anarferol ar y pryd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.