Tywysoges Diana (Llun: Blogspot)
Mae cerflun o Dywysoges Diana wedi cael ei gomisiynu i nodi 20 mlynedd ers ei marwolaeth.

Yn ôl ei meibion, William a Harry, mae’n bryd “cydnabod ei heffaith bositif”.

Bydd y cerflun yn cael ei osod ym Mhalas Kensington, lle’r oedd hi’n byw, ond dydy hi ddim yn glir eto pwy fydd y cerflunydd.

Cofio ‘ei bywyd a’i gwaddol’

Yn ôl y tywysogion: “Mae hi’n 20 mlynedd ers marwolaeth ein mam a nawr yw’r amser i gydnabod ei heffaith bositif yn y DU ac o amgylch y byd gyda cherflun parhaol.

“Gwnaeth ein mam gyffwrdd â chynifer o fywydau. Gobeithio y bydd y cerflun yn helpu’r holl bobol hynny sy’n ymweld â Phalas Kensington i fyfyrio ar ei bywyd a’i gwaddol.”

Tywysoges Diana

Bu farw Diana mewn gwrthdrawiad ym Mharis ar Awst 31, 1997 pan oedd William yn 15 oed a Harry yn 12.

Bydd y cerflun yn cael ei osod ger ffynnon er cof amdani yn Hyde Park a’r ardd goffa ger Palas Kensington.

Bydd chwaer Diana, Sarah McCorquodale ymhlith y rhai a fydd yn dewis y cerflunydd.