Manon Antoniazzi (Llun o'i chyfrif Twitter)
Dr Manon Antoniazzi sydd wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr newydd y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae hi’n gadael ei swydd yn Gyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth y sefydliad i olynu Clare Clancy, sydd wedi cyhoeddi ei hymddeoliad.

Yn y gorffennol, bu’n Ysgrifennydd Preifat Tywysog Cymru, yn Bennaeth Materion Cyhoeddus, Cenhedloedd a Rhanbarthau’r BBC; ac yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu’r Cynulliad ac S4C.

Mae hi hefyd yn chwaer i Ffion Hague, ac yn ferch i Emyr Jenkins, cyn-Gyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol a Phrif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

Yn ei swydd newydd, fe fydd Manon Antoniazzi yn gyfrifol am sicrhau bod gan aelodau’r Cynulliad yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i wneud eu gwaith, ac fe fydd yn dechrau ar ei gwaith ym mis Ebrill.