Mae Plaid Cymru wedi codi pryderon fod gweithwyr dur Tata yn wynebu pwysau i dderbyn cytundeb newydd sydd wedi cael ei gynnig iddyn nhw.

Yn ôl yr undebau sy’n eu cynrychioli, mae’r gweithwyr wedi drysu ynghylch y cytundeb o hyd.

Bydd undebau’n pleidleisio ar y cynnig yn fuan.

Cynllun pensiwn

Mewn memo cyfrinachol a gafodd ei anfon at gynrychiolwyr yr undebau gan arweinwyr pwyllgor sy’n gyfuniad o gynrychiolwyr Community, Uno’r Undeb a’r GMB, mae swyddogion yn dweud mai cynllun pensiwn y gweithwyr sy’n achosi’r pryder mwyaf.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar yr undebau i gynnig mwy o wybodaeth i’r gweithwyr am y cynnig i’r gweithwyr rhag ofn bod gweithwyr yn cael eu gorfodi i bleidleisio heb wybod yr holl ffeithiau.

Mewn datganiad, dywedodd Aelod Cynulliad a llefarydd dur Plaid Cymru, Bethan Jenkins: “Mae ychydig tros wythnos cyn i weithwyr wynebu pleidlais, ac mae’r wybodaeth y mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn aros amdani ers i’r cynnig gael ei gyhoeddi gyntaf ar y gweill o hyd?

“Pe bai’r undebau wedi cymryd galwadau Plaid Cymru o ddifri – fel cais difrifol gan gynrychiolwyr y dynion a’r menywod hyn – yn hytrach na cheisio labelu’r pryderon roedden ni’n eu mynegi fel ymyrraeth wleidyddol, yna efallai y bydden nhw wedi cael mwy o atebion erbyn hyn ac na fydden nhw wedi cael eu gorfodi i ddod ataf fi ac eraill.”

‘Wltimatwm’

Ychwanegodd Bethan Jenkins ei bod hi’n gofidio bod gweithwyr yn wynebu ‘wltimatwm’ cyn y bleidlais wrth i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ddweud bythefnos yn ôl nad oes “cytundeb arall ar y bwrdd”.

“Ar y nail law, maen nhw’n cyhuddo pawb arall o ddweud wrth weithwyr dur beth i’w wneud, ac eto lai na phythefnos yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog, “does dim cytundeb arall ar y bwrdd”.

“Dydy hynny ddim yn wir, fel y gwnaeth fy nghydweithiwr Adam Price dynnu sylw ato’r wythnos diwethaf.

“Rwy’n gofidio eu bod nhw’n gwneud yr union beth maen nhw’n honni eu bod yn ei wrthwynebu, drwy gyflwyno’r cytundeb hwn ar y cyfan fel wltimatwm.”

Galwodd ar Lywodraeth Lafur i ymddiheuro wrth y gweithwyr pe bai’n dod yn amlwg yn y pen draw fod hynny’n wir.