Mae Heddlu’r De’n ymchwilio i ymosodiad difrifol ar ddau ddyn yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Mae lle i gredu bod y ddau wedi cael eu hanafu’n ddifrifol wedi ymosodiad â chyllell ar Ffordd Ddwyreiniol Y Bont-faen yn Nhreganna am oddeutu 9 o’r gloch.

Cafodd y ddau, sy’n 22 a 23 oed, eu cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle maen nhw’n derbyn triniaeth am anafiadau difrifol nad ydyn nhw’n peryglu eu bywydau.

Chwilio am ddyn

Mae’r heddlu’n chwilio am unigolyn sy’n cael ei ddisgrifio fel dyn croenddu byr (tua 5’5″) oedd yn gwisgo siwmper a throwsus tywyll.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y ddau ddyn yn “lwcus iawn” nad oedd eu hanafiadau’n waeth.

Apeliodd am wybodaeth am y digwyddiad, gan alw ar dystion i gysylltu â’r heddlu ar 101.