Dafydd Wigley (Llun: Plaid Cymru)
Mae un o arglwyddi Plaid Cymru yn poeni am yr effaith y gallai Brexit ei gael ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Fe fu Dafydd Wigley yn cymryd rhan mewn dadl ar y mater yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw.
“Y teimlad oedd, nad oes yna ddim ymateb gan y Llywodraeth,” meddai Dafydd Wigley wrth golwg360. “Maen nhw’n cadw eu cardiau yn agos iawn atyn nhw’u hunain, ac maen nhw’n ofni rhoi unrhyw ymrwymiadau.”
Y Gwyll
Mae arian o Ewrop wedi bod yn bwysig i raglen dditectif Y Gwyll, meddai Dafydd Wigley wedyn. A hyd yn oed oddi allan i’r Undeb Ewropeaidd, mae angen gwybod os oes yna bosibilrwydd cael cymorth tebyg eto.
“Dyna un peth difyr daeth allan,” meddai. “Mae’r corff Ewropeaidd sydd wedi bod yn helpu gydag arian tuag at hyn [Y Gwyll], mae yna hawl i wledydd sydd ddim yn Aelodau’r Undeb Ewropeaidd i fod yn rhan o’r gyfundrefn ar gyfer y ddarpariaeth arbennig yma.
“Mi fyddai’n rhaid i Brydain dalu mewn, wrth gwrs, ar gyfer hynny, ond mae gwledydd fel Norwy, Gwlad yr Iâ a Serbia yn rhan ohono fo.”
Symudiad rhydd
Er na chafodd “ddim ymateb o gwbwl” i’w gwestiynau gan gynrychiolwyr Llywodraeth Prydain yn y ddadl yn Nhy’r Arglwyddi, mae Dafydd Wigley am weld cymal yn rhan o’r cytundeb gadael yr Undeb a fyddai’n caniatáu symudiad rhydd i weithwyr y diwydiant creadigol o Ewrop i wledydd Prydain – ac i Gymru, yn enwedig.
“Dw i’n gwbwl anhapus,” meddai. “Mae hi mor bwysig bod pobol yn y sector greadigol yn cael mynediad rhwydd yn ôl ac ymlaen rhwng gwledydd o fewn Ewrop, dyna sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwetha’, a bydd hi’n goblyn o golled symud yn ôl o hynny.
“Os fyddai rhyw ddarpariaeth felly, mi fydda fo’n helpu.”