Rhi Moxon
Rhi Moxon o Wrecsam ydi enillydd Gwobr Eirian Llwyd eleni, gwobr sy’n cael ei rhoi i artistiaid print addawol yng Nghymru.
Ac mae’r enillydd yn dweud ei bod yn “anrhydedd” cael ei dewis i ddewis wobr ac y byddai’n ceisio gweithio yn ei chymuned yn yr un modd ag a wnaeth Eirian Llwyd. Hi sefydlodd Y Lle Print Gwreiddiol yn Llangefni.
Bu farw’r artist yn dilyn salwch byr yn 2014, yn 63 oed. Roedd hi’n wraig i gyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones. Cafodd y wobr ei sefydlu yn dilyn ei marwolaeth ac mae’r enillydd yn cael hyd at £2,500 am un flwyddyn.
Rhi Moxon – “mor hapus”
Enillodd Rhi Moxon radd mewn darlunio o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam, lle mae’n dal i weithio, a threuliodd gyfnod yn astudio yng ngwlad Pwyl.
“Alla’ i ddim mynegi mor hapus ydw i i gael fy newis ar gyfer y wobr gwneud hon,” meddai Rhi Moxon, “ac i gael y cyfle i fynd i Gaerdydd i’w chasglu nos Iau, a chael y siawns i gwrdd â chymaint o bobol greadigol a thalentog o Gymru.
“Roedd Eirian Llwyd yn wneuthurwr print adnabyddus a weithiodd yn galed i wella pethau yn ei chymuned, yn enwedig drwy ei gwaith yn sefydlu canolfannau lloches i fenywod yng ngogledd Cymru.
“Dw i’n gobeithio ymgorffori ychydig o’r meddylfryd cymunedol hwnnw yn fy mhrosiectau print yn y dyfodol.”