Y 'Welsh Window' gan John Petts (Llun: Historic American Buildings Survey)
Dydd Iau diwetha’, Ionawr 12, fe gyhoeddodd Arlywydd yr Unol Daleithiau y byddai eglwys a gafodd ei chodi gyda chymorth ariannol pobol Cymru, yn ennill statws ‘heneb genedlaethol’.
Mae Eglwys y Bedyddwyrr Stryd 16 yn Alabama, yn rhan o ardal fydd yn derbyn statws Heneb Genedlaethol Hawliau Sifil Birmingham gan Barack Obama.
Ar Fedi 16 1963, gosododd aelodau grŵp KKK fom yn yr eglwys gan ladd pedair merch groenddu wrth iddyn nhw fynd i’r ysgol Sul. Wedi hynny, fe sefydlwyd ymgyrch godi arian gan bapur newydd y Western Mail, er mwyn medru talu am ffenest newydd i’r adeilad.
Hanes y ‘Welsh Window’
Fe gafodd digon o arian ei godi gan bobol Cymru nes comisiynu John Petts o Sir Gaerfyrddin i greu ffenestr liw i’w gosod yn yr eglwys.
Mae’r ffenest sydd bellach yn cael ei galw’n “Welsh Window” yn unigryw am ei bod yn portreadu Iesu yn ddyn du. Ar waelod y ffenest, mae neges sy’n nodi mai rhodd gan bobol Cymru ydi hi.
Daw penodiad y teitl o Gofadail Cenedlaethol hefyd i Gofadail Cenedlaethol Freedom Riders a Chofadail Cenedlaethol Reconstruction Era yn ystod dyddiau olaf Barack Obama yn y Tŷ Gwyn.