Bydd darparwyr rhwydweithiau ffôn, gwleidyddion a phobol sydd wedi eu heffeithio gan signalau gwael, yn cymryd rhan mewn cynhadledd heddiw er mwyn trafod problemau cysylltiad ffôn yng Nghymru.
Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac Ofcom Cymru, gyda’r gobaith o sicrhau na fydd Cymru’n “llusgo y tu ôl i weddill y Deyrnas Unedig”.
Mae Adroddiad Cenhedloedd Cysylltiedig yn dangos bod argaeledd 4G yng Nghymru 42% yn is nag yn Lloegr.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi datgan bod sicrhau bod pawb yng Nghymru â chysylltiad â rhwydwaith ffôn, ac ym mis Rhagfyr fe gyhoeddwyd y byddai £1 biliwn ar gael i’w wario ar isadeiledd digidol.
Her tirwedd Cymru
“Mae tirwedd Cymru yn golygu bod y dasg o adeiladu is adeiledd digidol yn gymhlethach ac yn fwy costus nac yn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig,” meddai Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru, Rhodri Williams.
“Er hyn mae disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau ffôn yng Nghymru yn cynyddu … ac fel bod cyfathrebu yn gweithio i bawb dylai pob plaid a rhôl i’w chwarae cydweithio er mwyn cael yr ateb gorau i bobol yng Nghymru.”