Mae disgwyl eiddgar y bore yma am gasgliadau adolygiad annibynnol a allai rhoi cefnogaeth i adeiladu morlyn cynta’ o’i fath yn y byd ym Mae Abertawe.
Cyn cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Charles Hendry, cyn Gweinidog dros Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth Prydain, y gallai morlynnoedd chwarae rôl bwysig yn sicrhau cyflenwadau ynni.
Fe sydd wedi arwain ar yr adroddiad, sydd wedi’i gomisiynu gan y Llywodraeth, i edrych ar botensial morlynnoedd i gynhyrchu ynni ar gyfer gwledydd Prydain.
Byddai adolygiad ffafriol yn rhoi hwb mawr i’r prosiect arloesol ym Mae Abertawe, ond byddai dal angen sêl bendith y Llywodraeth cyn bwrw ymlaen â’r cynlluniau.
Pwy sy’n talu?
Mae’r cwmni ynni adnewyddadwy, Tidal Lagoon Power, am gael cymhorthdal ar gyfer y cynllun gwerth £1.3 biliwn.
Fe fyddai’r morlyn yn cynnwys adeiladu morglawdd siâp U ar yr arfordir, gydag olwynion dŵr i geisio casglu llanw’r môr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Mae’r bobol y tu ôl i’r prosiect yn dweud y gallai’r morlyn newydd gynhyrchu digon o ynni ar gyfer 155,000 o dai am 120 o flynyddoedd.
“Rydym yn gwybod ei fod yn gweithio. Un o’r manteision gwych yw ei fod yn hollol ddibynadwy,” meddai Charles Hendry ar raglen Today, Radio 4.
Pryderon
Er bod y Llywodraeth wedi datgelu ei fod yn cefnogi morlynnoedd, fe ddywedodd y cyn Prif Weinidog, David Cameron, fod ei frwdfrydedd dros y cynllun wedi lleihau a hynny am y costau sylweddol.
Mae elusen Greenpeace wedi cefnogi’r prosiect ond mae rhai grwpiau cadwraeth wedi codi pryderon dros fwrw ymlaen â chreu’r morlynnoedd cyn asesu’r effaith ar fywyd gwyllt.