Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo o geisio llofruddio, yn dilyn digwyddiad yn Hafod-yr-Ynys, Caerffili, yn ystod oriau mân dydd Mawrth, Rhagfyr 27.

Mae disgwyl i ddyn 32 oed o Hafod-yr-Ynys, ynghyd â dyn arall 35 oed o Risga, ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd fore heddiw (dydd Gwener).

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gafodd dyn 47 oed o Bont-y-pwl ei drywanu, ac mae’n dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty. Mae ei gyflwr yn sefydlog.