Mae 17 o bobol wedi’u hanafu wedi i fws yr oedden nhw’n teithio ynddo wyro oddi ar draffordd yr M40 yn oriau mân ddydd Gwener.
Mae’r gyrrwr, ynghyd ag 16 o bobol eraill wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty, wedi i un o gerbydau’r Oxford Bus Company fynd oddi ar y ffordd ger cyffordd 7 ger Milton Common Swydd Rhydychen.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Canol De Lloegr yn dweud mai “niwl trwchus” oedd i gyfri’ am y ddamwain, a bod yr amodau wedi’i gwneud hi’n anodd i’r gwasanaethau brys gyrraedd y fan. O ganlyniad, fe fu’r draffordd ar gau am rai oriau yn dilyn y digwyddiad.
Fe fu chwech o ambiwlansys yn rhan o’r gwaith o gludo 17 o bobol i Ysbyty John Radcliffe yn ninas Rhydychen.