Mae dros hanner o bobol Cymru am weld y Deyrnas Unedig yn cael mynediad i’r Farchnad Sengl ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl ymchwil newydd.
Y Western Mail a gomisiynodd yr ymchwil gan gwmni Beaufort, ac mae’n dangos bod 54% o bobol Cymru am weld Brexit meddal yn hytrach na Brexit caled.
Cafodd 1,004 o bobol eu holi pa un o ddau opsiwn oedden nhw’n ei ffafrio, sef:
- Cadw mynediad am ddim i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd, fel bod y Deyrnas Unedig yn gallu parhau i werthu nwyddau a gwasanaethau heb dollau na rwystrau eraill, ond bod hyn yn golygu y dylen nhw ganiatáu i ddinasyddion gwledydd yr Undeb Ewropeaidd weithio yn y DU; neu
- Cyfyngu hawl dinasyddion gwledydd yr Undeb Ewropeaidd i weithio yn y Deyrnas Unedig ond heb gael mynediad am ddim i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd.
Roedd tri ymhob 10 person – 30% – yn credu mai cyfyngu hawl trigolion gwledydd yr Undeb Ewropeaidd i weithio yn y Deyrnas Unedig oedd fwyaf pwysig iddyn nhw, tra nad oedd 16% yn gwybod.
Roedd 66% o bobol fwy cefnog a 60% o bobol ifainc rhwng 16 a 34 oed yn tueddu i fod o blaid Brexit meddal, sy’n golygu cadw mynediad i’r Farchnad Sengl.
Y bobol sy’n fwyaf tebygol o gefnogi Brexit caled yw pobol lai cefnog (33%) a phobol dros 55 oed (35%).
Yn ddaearyddol, pobol o’r Cymoedd, Gorllewin De Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru oedd y bobol fwyaf tebygol o fod eisiau cyfyngu hawl pobol gwledydd yr Undeb Ewropeaidd rhag dod i weithio ym Mhrydain.
Ymateb y pleidiau
“Mae’r arolwg hwn yn adleisio’r hyn mae Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru wedi bod yn dweud am flaenoriaethau’r Deyrnas Unedig yn y trafodaethau Brexit,” meddai llefarydd ar ran y Blaid Lafur.
“Mae cadw mynediad llawn a diymatal i’r farchnad sengl yn hanfodol ar gyfer swyddi a’r economi Gymreig a dylai fod ein blaenoriaeth bennaf.
“Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod pryderon go iawn pobol yng Nghymru am y ffordd mae rheolau rhyddid i symud wedi’u gosod yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn deall bod ‘dim newid’ i sawl un, ddim yn opsiwn.”
Dywedodd Steffan Lewis AC, llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, “Cadw mynediad am ddim i’r farchnad sengl yw’r peth cywir i wneud ar gyfer economi Cymru, ac mae’n debyg bod y mwyafrif o bobol Cymru’n cytuno.”
“Pleidleisiodd pobol yng Nghymru i adael yr Undeb Ewropeaidd dros yr haf, ond wnaethon nhw ddim pleidleisio i yrru ein heconomi dros y dibyn.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n diogelu buddiannau diwydiant a busnesau Cymru drwy sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddatblygu cysylltiadau masnachu ag Ewrop, ein marchnad agosaf a phwysicaf.
“Mae nawr yn hanfodol bod gan Gymru lais cryf yn y trafodaethau i sicrhau bod barn pobol yng Nghymru a’r economi Gymreig yn cael ystyriaeth lawn.”
Dydy’r Ceidwadwyr Cymreig, UKIP na’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ddim wedi ymateb i’r canlyniadau hyd yma.