Mae’r heddlu wedi enwi dynes a gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad ger Caerffili ddydd Mercher.

Bu farw Marian Joan Radford, 67, o ardal Caerffili ar safle’r gwrthdrawiad ar yr A4048 ger pentref Markham.

Mae swyddogion arbennig yr heddlu yn rhoi cymorth i’w theulu.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Astra arian a VW Polo gwyn am tua 3:50 brynhawn Mercher.

Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i ffonio Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu rhif 299 o 14/12/16.