Mae arweinydd cerddorfaol amlwg wedi mynegi ei bryder dros “ddyfodol sâl” cerddoriaeth yng Nghymru, yn dilyn toriadau i wasanaethau cerdd ysgolion.

Dywedodd Owain Arwel Hughes ei fod yn poeni bod diffyg athrawon peripatetig ac offerynnau mewn ysgolion yn golygu y bydd llai o offerynwyr yng Nghymru yn y dyfodol.

“Yn y pendraw, o le mae’r bobol yma’n mynd i ddod?” meddai wrth golwg360.

“Dros y blynyddoedd, dw i wedi cwrdd â chymaint o wahanol bobol sy’n dweud bod eu bywydau nhw’n hollol wahanol oherwydd cawson nhw’r siawns i ddysgu offeryn yn yr ysgol ac roedden nhw’n pryderu beth fuasai wedi digwydd [pe bai] nhw heb gael y siawns yn y lle cyntaf.

“Dim arian erbyn hyn”

Ychwanegodd Owain Arwel Hughes: “Beth sydd ddim yn dda ac yn bryderus i bawb dw i’n meddwl yw’r ffaith fod ddim yr arian erbyn hyn i’r plant gael offerynnau.

“Jyst i gychwyn, does dim offerynnau gyda nhw, dyna beth sydd wedi bod mor dda dros y blynyddoedd, roedd offerynnau i bobol ifanc ddewis.

“Ry’n ni wedi cael cymaint o offerynwyr gwych yn dod allan o Gymru oherwydd hynny ac mae hwnna’n rhywbeth sydd yn drist iawn…

“Ac felly mae’r dyfodol yn edrych yn sâl iawn os bydd hwn yn mynd ymlaen.”