Graham Davies (Llun: Heddlu Dyfed-Powys)
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth am ddyn 58 oed o Grughywel a aeth ar goll ddydd Gwener.
Mae ei deulu’n gofidio am ei ddiogelwch.
Mae’n 6’3″ a chanddo wallt llwyd, ac mae’n gyrru car Ford Mondeo arian, rhif CK56 LYR.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu yn Aberhonddu ar 101.