Orgreave yn 1989 (Llun: PA)
Mae disgwyl i ffeiliau’r Swyddfa Gartref yn ymwneud â therfysgoedd Orgreave yn ystod Streic y Glowyr yn 1984 gael eu cyhoeddi a’u rhoi i’r Archifau Cenedlaethol Prydeinig y flwyddyn nesaf.

Fe fydd y ffeiliau ymhlith 30 o ffeiliau fydd yn cael eu rhoi i’r Archifau Cenedlaethol Prydeinig, ac mae lle i gredu bod o leiaf un o’r ffeiliau’n sôn am y brwydro a fu rhwng yr heddlu a phrotestwyr.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd mewn llythyr at y Pwyllgor Dethol Materion Cartref y dylai’r ffeiliau fod ar gael “yn hanner cyntaf 2017”.

Cafodd hi ei beirniadu ym mis Hydref wrth iddi gyhoeddi na fyddai ymchwiliad gan San Steffan i’r hanes.

Ac roedd pryderon bod y ffeiliau’n ymwneud â’r digwyddiad yn cael eu cadw’n gyfrinachol.

Cafodd 95 o bobol eu cyhuddo yn dilyn y terfysgoedd, ac fe fu’n rhaid i Heddlu De Swydd Efrog dalu iawndal i rai ohonyn nhw’n ddiweddarach.

Mae cadeirydd y Pwyllgor Dethol Materion Cartref, Yvette Cooper wedi croesawu penderfyniad Amber Rudd, gan ddweud ei bod hi wedi gofyn i 18 o heddluoedd am wybodaeth mewn perthynas â’r hanes sydd heb fod ar gael i’r cyhoedd hyd yn hyn.