Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, sydd wedi beirniadu'r ymosodiadau
Mae 29 o bobol wedi cael eu lladd a 166 o bobol wedi’u hanafu ar ôl ffrwydradau ger stadiwm bêl-droed yn Istanbul.

Roedd 27 o blismyn ymhlith y rhai a gafodd eu lladd, yn ôl yr awdurdodau yn Nhwrci, sy’n dweud bod 10 o bobol wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r ddau ffrwydrad.

Roedd miloedd o gefnogwyr eisoes wedi gadael stadiwm Vodafone Arena – cartref tîm Besiktas J.K. – cyn y ffrwydradau.

Mewn datganiad, dywedodd arlywydd y wlad, Recep Tayyip Erdogan fod Twrci “unwaith eto wedi gweld wyneb hyll brawychiaeth sy’n sathru ar bob gwerth”.

Mae lle i gredu mai hunanfomiwr oedd yn gyfrifol am yr ail ffrwydrad, ond does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn.

Ond mae’r rhan fwyaf o ymosodiadau yn y wlad eleni’n cael eu cysylltu â’r Wladwriaeth Islamaidd a gwrthryfelwyr Cwrdaidd.

Mae’r wlad mewn argyfwng ers mis Gorffennaf.