Lila Haines a Fidel Castro (Llun: Lila Haines)
Mae newyddiadurwraig a dreuliodd gyfnodau’n gweithio yng Nghiwba yn yr 1980au a’r 1990au wedi dweud wrth golwg360 ei bod yn ofni beth fydd tynged y wlad heb arweinydd fel Fidel Castro.

Yn ôl Lila Haines, mae’r wlad yn wynebu bygythiadau newydd yn sgil ethol Donald Trump yn yr Unol Daleithiau lle allai’r berthynas a’r masnachu rhwng y ddwy wlad “wanhau,” meddai.

“Pe bai Hillary Clinton, er enghraifft, wedi ennill byddai hi wedi parhau â’r polisïau a ddatblygodd Obama, ac yn raddol byddai bywydau pobol gyffredin yn parhau i wella yng Nghiwba.

“Ond os bydd Trump yn gweithredu’i fygythiadau o droi’n ôl y gwaith mae Obama wedi’i wneud yna bydd hynna’n broblem.”

Esboniodd hefyd nad oes gan Arlywydd presennol Ciwba, Raul Castro, sy’n frawd i Fidel Castro “yr un safiad a oedd gan Fidel.”

“Felly os bydd pethau’n dechrau cwympo’n rhacs a bywydau pobol yn gwaethygu, bydd yn anoddach iddo fe gadw pethau at ei gilydd.”

‘Ymateb yn gymysg’

Fe gyhoeddodd Raul Castro farwolaeth ei frawd, Fidel Castro, nos Wener yn 90 oed.

Ar hyn o bryd mae Ciwba’n cynnal naw diwrnod o alaru, ac yn ôl Lila Haines, “ymdeimlad o dristwch” sydd yn y wlad ar y cyfan.

“Mae’r ymateb yn gymysg achos mae e wedi bod yn rhan mor bwysig o fywydau cymaint o bobol hyd yn oed yr ifanc.

“Bydd yr hyn mae e wedi’i wneud i wella bywydau pobol yn sefyll yn y cof, yn enwedig addysg ac iechyd sydd wedi bod ar gael am ddim ers degawdau,” meddai Lila Haines.

“Ond mae’n wir fod Fidel ac eraill wedi gwneud camgymeriadau ym marn llawer o bobol.

“Mae rhai yn dweud y dylai fod wedi camu’n ôl ynghynt a gadael i bethau ddatblygu’n fwy rhydd.”

Ac ychwanegodd fod yna rai fydd yn dathlu ei farwolaeth ym Miami.

‘Cefndryd Celtaidd’

Mae gan Lila Haines atgofion personol o gwrdd â Fidel Castro.

“Roedd e’n gymeriad cymdeithasol iawn ac yn awyddus i siarad â phobol,” meddai.

“Pan gwrddais i ag ef, fe wnaeth e ddatgan ein bod ni’n gefndryd Celtaidd,” am fod yntau’n hanu o  Galisia.