Nigel Farage Llun: Ukip
Cyn diwedd y dydd heddiw mae UKIP yn gobeithio cyhoeddi pwy fydd eu harweinydd nesaf gan ddod â chyfnod Nigel Farage fel arweinydd y blaid i ben.

Daw hyn yn dilyn misoedd cythryblus o fewn y blaid wedi i Diane James, a fu’n arweinydd y blaid wedi i Nigel Farage gamu o’r neilltu’n wreiddiol, roi’r gorau i’r rôl ar ôl 18 diwrnod, ac mae bellach wedi cyhoeddi ei bod wedi gadael y blaid.

Fe gamodd Nigel Farage yn ôl i’r adwy am gyfnod wedyn, ond mae disgwyl heddiw i unai Paul Nuttall, Suzanne Evans neu John Rees-Evans ddod yn arweinydd.

Fe gyhoeddodd un o gyn-ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth hefyd, Steven Woolfe, ei fod yntau’n gadael y ras ac yna’n gadael y blaid yn dilyn ffrwgwd rhyngddo ef â’i gyd Aelod Seneddol Ewropeaidd, Mike Hookem, yn Strasbwrg ym mis Hydref.

Ac mae unig Aelod Seneddol UKIP, Douglas Carswell, wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi cyfle i “ailosod” y blaid.