Pobol yng Nghymru yw’r rhai mwya’ tebygol trwy wledydd Prydain o fod yn hapus â’r lle maen nhw’n byw, yn ôl astudiaeth newydd.
Roedd dros naw o bob 10 person yng Nghymru [93.4%] wedi dweud eu bod yn hapus â’u bro, o gymharu â 89.1% o’r boblogaeth ledled Prydain.
Yn ôl gwaith ymchwil Yswiriant Co-op, pobol o Ogledd Iwerddon sydd fwya’ anhapus â lleoliad eu cartrefi, gyda 82.1% yn dweud eu bod yn fodlon.
Ffactorau
Mae’r arolwg yn awgrymu y gallai pris cartref gael fwy o ddylanwad ar y penderfyniad i brynu tŷ, yn hytrach na’r lleoliad.
Roedd 70% o’r 2,000 o bobol a holwyd yn dweud mai pris tŷ oedd y ffactor pwysicaf wrth brynu, tra mai 65% oedd yn credu mai’r lleoliad oedd bwysicaf.
Ffactorau eraill wrth feddwl am brynu tŷ oedd maint yr ardd, gyda 48% yn cytuno bod hyn yn bwysig, a 33% yn credu bod cysylltiadau trafnidiaeth yn hanfodol, ac roedd 24% am fod yn agos at ysgol dda.
Roedd 67% o bobol wedi dweud bod cael ysbryd cymunedol yn eu hardal yn allweddol ac 19% yn ystyried pwy fyddai eu cymdogion cyn penderfynu prynu cartref newydd.