Owain Williams a Mari Lovgreen (Llun: S4C)
Mae’r gyfres gylchgrawn i bobl ifanc, Tag, yn dathlu darlledu 200 o raglenni ar S4C heno.

Owain Williams a Mari Lovgreen sy’n cyflwyno Tag, a heno bydd y DJ Radio 1 Huw Stephens a’r band Sŵnami yn y stiwdio yng Nghaerdydd.

Ymhlith y sêr i ymddangos ar y gyfres ar hyd y blynyddoedd mae’r pêl-droedwyr Ben Davies a Joe Allen, actores Gotham Erin Richards, y sêr Olympaidd a Paralympaidd Owain Doull ac Aled Siôn Davies, yr actorion Ioan Gruffudd, Iwan Rheon a Matthew Rhys, is-reolwr pêl-droed Cymru Osian Roberts a chyflwynydd The One Show Alex Jones.

Ar y carped coch mae Owain Williams wedi mwynhau clonc gyda rai o sêr mwyaf blaenllaw Hollywood – gan gynnwys Will Ferrell, George Clooney, Mark Wahlberg, Dwayne ‘The Rock’ Johnson, Jack Black, Keira Knightly, Chris Hemsworth, Kate Hudson a Vin Diesel.

Mae camerâu Tag hefyd wedi mentro tu ôl y llen ar rai o gyfresi amlyca Cymru a thu hwnt – Doctor Who, Pobol y Cwm, Match of the Day, Coronation Street, Eastenders, The X Factor, Emmerdale, Soccer AM, Rownd a Rownd, Gwaith Cartref, a Sky Sports News.

Bob wythnos, mae tîm Tag yn adolygu a sgwrsio am ffasiwn, selebs, chwaraeon, coginio, cerddoriaeth, gadjets a gemau.