Michaela Lawrence ar y chwith a Kylisha Barrett ar y dde. (Llun: Heddlu Gwent)
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddwy ferch yn eu harddegau sydd ar goll o Lyn Ebwy.

Cafodd yr heddlu wybod fod y ddwy ferch 15 ac 16 oed wedi mynd ar goll ar ddydd Gwener, Tachwedd 18.

Mae’r heddlu yn credu fod y merched, Michaela Lawrence a Kylisha Barrett, gyda’i gilydd.

Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am eu lleoliad i gysylltu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 606 18/11/16.