Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Mae Theresa May wedi cydnabod bod “ansicrwydd” i fusnes o ganlyniad i Brexit wrth iddi annerch yng nghynhadledd flynyddol arweinwyr busnes Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI).
Pwysleisiodd na fyddai’r Llywodraeth yn “rhuthro ymlaen” gyda’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd ac y bydden nhw’n “cymryd amser” i negydu cytundebau.
Roedd hi’n cydnabod hefyd y byddai “sialensiau”, ond mynnodd fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i gynnig hyblygrwydd i’r Deyrnas Unedig negydu cytundebau masnach ar draws y byd.
‘Dim rhuthro’
Cafodd y Prif Weinidog wahoddiad i annerch y gynhadledd wedi i lywydd y CBI, Paul Drechsler, alw arni i roi gwell eglurdeb o gynllun Brexit.
“Rwy’n gwybod fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn creu ansicrwydd i fusnes,” meddai Theresa May gan gydnabod y bydd sialensiau a hefyd cyfleoedd yn codi o’r canlyniad.
“Yr agwedd iawn yw inni beidio â rhuthro ymlaen heb wneud y seilwaith, ond i gymryd amser i gael ein safle negydu’n glir cyn inni barhau.”
Roedd yn cydnabod fod galwadau am eglurdeb pellach, ac addawodd y byddai’n datgelu manylion pan fyddai’n gallu gan gynnwys yr addewid i danio Cymal 50 “cyn diwedd mis Mawrth nesaf.”
Dywedodd fod canlyniad Brexit wedi cynnig cyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” i greu Prydain gryfach a thecach.