Yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, Llun: PA
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud na fydd newid i’r swyddi personél milwrol yng Nghymru o ganlyniad i’r cyhoeddiad y bydd 56 o’u safleoedd yn cael eu cau erbyn 2040.
Fe wnaeth Ysgrifennydd Amddiffyn Llywodraeth Prydain, Michael Fallon, y cyhoeddiad hwn yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun.
Mae tri o’r safleoedd hynny wedi’u lleoli yng Nghymru, sef barics Aberhonddu a storfa Pont Senni ym Mhowys a barics Cawdor yn Sir Benfro.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wrth Golwg360 heddiw y byddai personél milwrol y safleoedd hyn yn cael eu “hadleoli i unedau eraill” ac na fyddai “dim colli swyddi milwrol.”
‘Arbed costau’
Daw cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Amddiffyn fel rhan o gynllun ad-drefnu adeiladau milwrol.
Yn ôl Michael Fallon, byddai gwaredu â’r safleoedd hyn yn arbed £140 miliwn o gostau cynnal a chadw dros y ddegawd nesaf.
Mae safleoedd eraill yn cynnwys Fort George yn yr Alban, ac mae’r SNP wedi rhybuddio fod cau wyth safle i’r gogledd o’u ffin yn peryglu “ymosod” ar bresenoldeb amddiffyn yr Alban.