Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi dweud bod sylfaen economi gwledydd Prydain yn gadarn, er gwaethaf adroddiad sy’n rhybuddio bod y rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus wedi gwaethygu o £25 biliwn ers y Gyllideb ym mis Mawrth o ganlyniad i dwf is na’r disgwyl.

Wrth i Philip Hammond baratoi at gyflwyno  Datganiad yr Hydref am y tro cyntaf fel Canghellor, mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) yn rhagweld y bydd benthyciadau a dyled Llywodraeth Prydain yn cynyddu erbyn 2019-20, os yw’r twf yn parhau’n is na’r disgwyl.

Mae’r gwrthbleidiau hefyd wedi datgan pryder am “dwll du” y Trysorlys yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ymweliad ag India, dywedodd Theresa May wrth y BBC bod Prydain “yn benderfynol o fyw o fewn ei gallu”.

“Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn cymryd y cyfleoedd sydd ar gael i ni i ddatblygu masnach ar draws y byd,” meddai.

Dywedodd Canghellor yr wrthblaid John McDonnell: “Mae’r ffaith nad oes gan y Torïaid gynllun credadwy ar gyfer yr economi nag unrhyw gynllun o gwbl ar gyfer Brexit, yn dechrau achosi problemau i gyllid cyhoeddus.

“Mae’r adroddiad yma’n tanlinellu methiant y Torïaid i fynd i’r afael a’r economi dros y chwe blynedd diwethaf.. sy’n golygu nad yw ein heconomi yn barod ar gyfer unrhyw ddirywiad a allai ddigwydd yn sgil Brexit.

“Mae’n bryd i’r Canghellor ddysgu gwersi George Osborne yn hytrach na’u hail-adrodd.”