Llun: PA
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n lansio ymgynghoriad yn y flwyddyn newydd i edrych ar reoliadau presennol yr Undeb Ewropeaidd, a sut i’w cryfhau yng Nghymru ar ôl Brexit.
Daw hyn wrth iddyn nhw alw am drosglwyddo Mesur Dilyniant yr Undeb Ewropeaidd i Gymru er mwyn “gwarchod yr amgylchedd, swyddi a’r economi,” ynghyd â sicrhau na fydd y pwerau datganoledig “yn cwympo i ddwylo Llywodraeth San Steffan.”
Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Steffan Lewis AC, mae angen i Gymru “ddilyn ei llwybr ei hun.”
“Mae’r hinsawdd wleidyddol yn San Steffan yn gynyddol groes i bobol Cymru. Rhaid i ni ofalu, pa gyfeiriad bynnag yr aiff Theresa May wedi Brexit, a bod symudiad i’r dde yn edrych yn gynyddol debygol, y gall Cymru ddilyn ei llwybr ei hun,” meddai.
Cymru – ‘cydnaws â rheoliadau’r UE’
Dywedodd y byddai trosglwyddo Mesur Dilyniant a rheoliadau’r UE i Gymru yn “sicrhau y bydd y safonau sydd mor werthfawr i ni, megis mesurau gwarchod amgylcheddol, safonau bwyd, a’r hawliau y daethom i’w cymryd yn ganiataol fel dinasyddion yr UE, yn parhau i fod yn gymwys i Gymru ar ôl Brexit.”
“Mae’n hanfodol i’n heconomi ein bod yn cadw Cymru yn gydnaws â rheoliadau’r UE. Hyd yn oed os gwelwn gamu’n ôl yn Llundain, rhaid i Gymru fwrw ymlaen yn hyderus,” meddai wedyn.
Amaethyddiaeth a’r Amgylchedd…
Ychwanegodd llefarydd y blaid ar newid hinsawdd, ynni a materion gwledig, Simon Thomas y “dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru.”
“Mae hyn yn arbennig o wir am gyfreithiau ynghylch amaethyddiaeth a’n hamgylchedd, lle mae gan Gymru anghenion gwahanol nad ydynt yn cael eu deall gan lywodraeth bellennig San Steffan,” meddai.
“Mae’r UE yn cyfrif am fwy na 90% o allforion amaeth Cymru, a bydd parhau i gydymffurfio â rheoliadau’r UE yn hanfodol er mwyn cynnal y fasnach honno.”