Minera ger Wrecsam
Mae safle chwarel yn ardal Wrecsam a gaeodd yn 1994 yn debygol o gael ail fywyd wrth i’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt baratoi i sefydlu gwarchodfa natur yno.

Roedd gweithwyr yn chwarel Minera wedi bod yn cloddio carreg galch am fwy na 200 o flynyddoedd.

Ond mae’r safle bellach yn gartref i flodau gwyllt, ac mae bellach yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae disgwyl i’r cynlluniau ar gyfer y safle, sy’n cael eu cyflwyno gan gwmni Tarmac, ddod i’r fei erbyn diwedd y flwyddyn.