Mae Theresa May yn mynnu na fydd neb yn ei hatal rhag bwrw ymlaen gyda’r trafodaethau i ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Prif Weinidog Prydain wedi teithio i India i sicrhau cytundeb masnach “uchelgeisiol”.

Yn ystod ei thaith, mae disgwyl iddi drafod cytundeb masnach hirdymor a fydd yn ei le ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ddechrau ei thaith, dywedodd hi ei bod hi’n “oes y cyfleoedd”, ac mae disgwyl i’r cytundebau greu 1,370 o swyddi yng ngwledydd Prydain.

Un o’r cyfryw cytundebau yw partneriaeth ddinesig rhwng y ddwy wlad a allai arwain at gyfleoedd gwerth £2 biliwn.

Wrth ymateb i’r ffrae a ddeilliodd o benderfyniad yr Uchel Lys fod rhaid cael caniatâd y Senedd gyfan cyn bwrw ymlaen gyda’r broses o weithredu Cymal 50, rhybuddiodd May aelodau seneddol ac arglwyddi oedd o blaid aros yn Ewrop fod rhaid “derbyn yr hyn wnaeth y bobol ei benderfynu”.

Ac wrth ymateb i alwadau gan y Blaid Lafur i ddatgelu ei bwriad yn ystod y trafodaethau, dywedodd May nad oedd hynny “er lles y wlad”.

Mae disgwyl i benderfyniad yr Uchel Lys arwain at apêl yn y Goruchaf Lys yn y gobaith o allu dechrau’r broses ffurfiol erbyn diwedd mis Mawrth.

Dywedodd May: “Tra bod eraill yn ceisio clymu ein dwylo sy’n negydu, bydd y Llywodraeth yn parhau â’r gwaith o weithredu ar benderfyniad pobol Prydain.

“Yr ASau benderfynodd yn aruthrol i roi’r penderfyniad yn eu dwylo. Roedd y canlyniad yn glir. Roedd yn gymwys. Mae angen i ASau ac arglwyddi sy’n difaru’r canlyniad dderbyn yr hyn wnaeth y bobol ei benderfynu.”

Yn ystod y daith, mae disgwyl iddi drafod argaeledd fisa i weithwyr a myfyrwyr o India wrth iddyn nhw ddod i wledydd Prydain.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth India fod nifer y myfyrwyr o’r wlad sydd wedi dod i wledydd Prydain yn ystod y pum mlynedd diwethaf wedi haneru, a hynny oherwydd y broses o wneud cais am fisa.

Ac mae undeb Community wedi galw ar Theresa May i sicrhau bod cwmni dur Tata yn trin eu gweithwyr Prydeinig mewn modd cyfrifol yn dilyn yr helynt diweddar sydd wedi effeithio ar weithwyr ym Mhort Talbot.