Mae Donald Trump yn targedu rhai o gadarnleoedd y Democratiaid wrth i’r ras arlywyddol dynnu tua’i therfyn yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Americanwyr yn pleidleisio ddydd Mawrth, ac mae polau’n awgrymu ei bod hi’n ras agos rhwng ymgeisydd y Gweriniaethwyr a’i wrthwynebydd Hillary Clinton.

Mae Trump yn Florida ar hyn o bryd, ond mae disgwyl iddo deithio i Minnesota nesaf gyda thridiau o ymgyrchu’n weddill.

Mae disgwyl hefyd y bydd yn teithio i Nevada, Colorado, Pennsylvania, Michigan, Gogledd Carolina a Denver.

Dydy’r Gweriniaethwyr ddim wedi ennill ym Minnesota ers 1972, nac ym Michigan na Pennsylvania ers 1988.

Mae polau ar hyn o bryd yn awgrymu bod Clinton ar y blaen ym Minnesota.

A’r gred yw fod rhaid i Trump gipio talaith Florida er mwyn dod yn Arlywydd, ond fe allai’r ras fod yn agos iawn yno.

Clinton a’r Democratiaid

Mae Hillary Clinton, yn y cyfamser, yn dibynnu ar gefnogaeth llu o enwogion i sicrhau mai hi fydd yn ennill yr etholiad.

Mae hi wedi cael ei gweld mewn cyngerdd gyda Beyonce a Jay Z yn Ohio, a bydd hi’n ymgyrchu gyda Katy Perry yn Philadelphia heno.

Yfory, mae disgwyl iddi fynd ar lwyfan gyda’r chwaraewr pêl-fasged LeBron James yn Ohio, cyn mynd i Philadelphia nos Lun lle bydd hi’n cymryd rhan mewn rali gyda’i gŵr a’r cyn-Arlywydd Bill Clinton, a Barack Obama a’i wraig Michelle.