Yr Uchel Lys dan y lach
Mae’r Arglwydd Ganghellor Liz Truss wedi dweud bod “rhaid dilyn y broses gyfreithiol” yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys fod rhaid cael caniatâd y Senedd cyn gweithredu Cymal 50 er mwyn dechrau ar y broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Truss wedi cael ei beirniadu am ei diffyg ymateb i “ymosodiadau difrifol ac anghyfiawn” gan aelodau seneddol a’r wasg yn dilyn y penderfyniad ddydd Iau.

Dywedodd hi mai’r farnwriaeth yw’r “sail y cafodd ein cyfraith ei hadeiladu arno”, a bod “y farnwriaeth yn uchel ei pharch ar draws y byd am ei hannibyniaeth ac am fod yn ddi-duedd.”

Dywedodd fod Llywodraeth Prydain yn bwriadu apelio i’r Goruchaf Lys, gan fod “rhaid dilyn y broses gyfreithiol”.