Mae bargyfreithwyr wedi galw ar yr Arglwydd Ganghellor Liz Truss i feirniadu ymosodiadau “difrifol ac anghyfiawn” ar y farnwriaeth.

Daw’r alwad gan Gyngor y Bar yn sgil penderfyniad yr Uchel Lys fod angen caniatâd Senedd Prydain cyn bod Llywodraeth Prydain yn gallu mynd ati i gychwyn y broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae aelodau seneddol Ceidwadol a’r wasg wedi beirniadu’r penderfyniad tros weithredu Cymal 50.

Yn ôl y Daily Mail, y farnwriaeth yw “gelyn y bobol” tra bod yr Express wedi cyfeirio at “y diwrnod y bu democratiaeth farw”.

Mae aelodau seneddol Ceidwadol eisoes wedi galw ar y Prif Weinidog Theresa May i ddatgan bod annibyniaeth y farnwriaeth yn rhan hanfodol o ddemocratiaeth gwledydd Prydain.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor y Bar eu bod yn “condemnio’r ymosodiadau difrifol ac anghyfiawn ar y farnwriaeth a ddeilliodd o ymgyfreithiad yn ymwneud â Chymal 50.

“Mae’n difaru diffyg datganiad gan yr Arglwydd Ganghellor yn condemnio’r ymosodiadau hyn ac yn galw ar yr Arglwydd Ganghellor i wneud hynny ar frys.

“Mae barnwriaeth annibynnol yn hanfodol i ddemocratiaeth weithio ac i gynnal y gyfraith.”

Yn ôl Cyngor y Bar, roedd y penderfyniad yn ymwneud â’r broses gyfansoddiadol – yn hytrach na’r penderfyniad – i adael yr Undeb Ewropeaidd.