Mae adroddiadau bod 25 o blant ymhlith 74 o bobol sydd wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiad ar Aleppo yn Syria.

Ymosododd gwrthryfelwyr ar y ddinas wrth iddyn nhw daro nôl yn erbyn gwaharddiad arnyn nhw gan y llywodraeth yn rhannau dwyreiniol y ddinas.

Mae’r gwrthryfelwyr eisoes wedi cael eu beirniadu am ladd bobol gyffredin yn ystod cyrchoedd tros rannau gorllewinol y ddinas.

Yn y cyfamser, mae gwaharddiad dros dro ar gyrchoedd awyr a gafodd ei gyflwyno gan Rwsia wedi dod i ben.

Er i Rwsia a Syria rybuddio bron i 275,000 o drigolion lleol i adael eu cartrefi, cafodd y rhybudd ei anwybyddu ar y cyfan.